Rhif y ddeiseb: P-06-1368

Teitl y ddeiseb: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gadw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mewn perthynas â Chymru

Geiriad y ddeiseb:  Mae Prosiect Amgylcheddol pro bono myfyrwyr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd, wedi ystyried Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a sut y gellid eu gwella yng Nghymru, ac wedi cynhyrchu adroddiad byr.

Fodd bynnag, os bydd y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn cael ei basio, bydd yr holl is-ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE yn dod i ben ddiwedd 2023, gan gynnwys Rheoliadau 2004.

Byddai’r DU yn torri Confensiwn Aarhus.

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’i phwerau i gadw Rheoliadau 2004 i Gymru.

Rhagor o fanylion

Mae pwysigrwydd yr hawliau a roddwyd i’r cyhoedd gan Gonfensiwn Aarhus (a, thrwy hynny, gan Reoliadau 2004) wedi’u crynhoi’n wych yn achos Fish Legal yn erbyn Comisiynydd Gwybodaeth United Utilities plc Yorkshire Water Services Ltd a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig [2015] UKUT 52 (AAC), ym mharagraff 57:

 

“The Aarhus Convention...links environmental rights and human rights. It acknowledges that we owe an obligation to future generations. It establishes that sustainable development can be achieved only through the involvement of all stakeholders. It links government accountability and environmental protection. It focuses on interactions between the public and public authorities in a democratic context and it is forging a new process for public participation in the negotiation and implementation of international agreements...it is also a Convention about government accountability, transparency, and responsiveness..."

 


1.        Cefndir

1.1.            Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Newidiodd y DU gyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig, a'i galw'n gyfraith yr UE a ddargedwir, er mwyn lleihau'r tarfu wrth ymadael â'r UE. Roedd cyfraith yr UE a ddargedwir yn golygu bod cyfreithiau cyn Brexit yn parhau i fod ar waith i osgoi bylchau mewn meysydd pwysig fel safonau cynhyrchion, lles anifeiliaid a chyfraith amgylcheddol.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (‘Rheoliadau 2004’) yn gyfraith yr UE a ddargedwir. Maent yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. O dan Reoliadau 2004:

§  mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth amgylcheddol ar gael yn rhagweithiol;

§  gall aelodau o'r cyhoedd ofyn am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus.

Mae Rheoliadau 2004 yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2003/4/CE y Cyngor Ewropeaidd ar yr hawl i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol (Cyfarwyddeb EC) yn y DU. Mae Cyfarwyddeb EC yn deillio o gytundeb rhyngwladol o’r enw ‘Convention on Access to Information, Public Participation in Decision-Making and Access to Justice in Environmental Matters’, a elwir yn ‘Gonfensiwn Aarhus’. Confensiwn Aarhus sy’n rhoi'r hawliau cyhoeddus ar fynediad at wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd a mynediad at gyfiawnder mewn prosesau gwneud penderfyniadau llywodraethol ar faterion amgylcheddol. Mae’r DU yn rhan o Gonfensiwn Aarhus.

1.2.          Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Cafodd Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (‘y Ddeddf’) ei deddfu ar 29 Mehefin 2023.

Yn ystod hynt y Bil diwygiwyd y dull o ymdrin â chyfraith yr UE a ddargedwir yn sylweddol (ar ôl i'r ddeiseb hon gael ei chyflwyno). Yn lle’r cymal machlud y cyfeiriwyd ato yn y ddeiseb, a fyddai wedi dirymu’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn awtomatig, rhoddwyd restr o 587 o ddarnau o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir a fydd yn dod i ben ar ddiwedd 2023.

Y rhestr hon yw Atodlen 1 i'r Ddeddf. Gall Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru esemptio cyfraith yr UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1, sydd felly’n ei harbed, ond roedd yn ofynnol iddynt basio rheoliadau i wneud hynny erbyn 31 Hydref 2023. Gwnaeth Llywodraeth y DU esemptio pedwar darn o gyfraith yr UE a ddargedwir o Atodlen 1 cyn y dyddiad cau hwn ond ni wnaeth Llywodraeth Cymru arfer ei phwerau.

Nid yw Rheoliadau 2004 y cyfeirir atynt gan y ddeiseb yn cael eu rhestru yn Atodlen 1, ac felly nid oes disgwyl iddynt ddod i ben o ganlyniad i'r Ddeddf.

Er bod Rheoliadau 2004 yn parhau i fod yn berthnasol, maent yn ddarostyngedig i'r newidiadau canlynol a wnaed i gyfraith yr UE a ddargedwir gan y Ddeddf:

§  Mae gan Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru bwerau i ddiwygio, diddymu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith a gymathwyd yn haws;

§  Gall Llywodraeth y DU a Senedd y DU wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig heb gael cydsyniad gan Weinidogion Cymru na'r Senedd, gan osgoi sefydliadau Cymru o bosibl;

§  O 1 Ionawr 2024, bydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei hailenwi’n “gyfraith a gymathwyd”;

§  Mae newidiadau i'r hierarchaeth gyfreithiol ddomestig yn cynnwys diddymu egwyddorion goruchafiaeth ac egwyddorion cyfraith yr UE ar ôl diwedd 2023. Mae egwyddorion cyfraith yr UE yn cynnwys sicrwydd cyfreithiol, triniaeth gyfartal, cymesuredd, parch at hawliau sylfaenol a'r egwyddor ragofalus.

§  Bydd hawliau, pwerau, rhwymedigaethau ac ati sy’n deillio o’r UE yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Ymrwymodd Llywodraeth y DU i gynnal cydymffurfiad â rhwymedigaethau rhyngwladol yn ystod hynt y Bil drwy Senedd y DU.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Gwnaeth Llywodraeth Cymru wrthwynebu'r ddeddf o'r dechrau, gan gredu bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithio'n dda ac y gellid ei diweddaru yn ôl yr angen. Dywedodd:

… ein barn ni yw bod cyfraith yr UE a ddargedwir (REUL), fel cyfraith yr UE cyn hynny, yn gweithio'n dda. Nid oedd gennym unrhyw fwriad i ddiddymu, dirymu na diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir, yn enwedig erbyn dyddiad cau mympwyol.

Gwnaeth Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru ysgrifennu adroddiad i Lywodraeth Cymru yn gwneud argymhellion ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Roedd hyn cyn y gwelliant a newidiodd y dull cymal machlud. Roedd yr adroddiad yn sôn am "bryderon mawr" gan randdeiliaid y gallai deddfwriaeth gael ei rhoi o’r neilltu heb asesiad priodol na gwaith ymgynghori â rhanddeiliaid. Mae'r adroddiad yn nodi y gallai'r diffyg ymgynghori hwn fod yn achos o dorri Confensiwn Aarhus drwy amddifadu'r cyhoedd o'r cyfle i gyfrannu at newidiadau mewn cyfraith amgylcheddol. Yn gyffredinol, cytunodd Llywodraeth Cymru â'r materion a'r pryderon a godwyd, a dywedodd:

… rydym yn llwyr gytuno â’r adroddiad bod angen i Senedd Cymru ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar unrhyw gynigion a ddaw o ganlyniad i’r Bil i wneud newidiadau arwyddocaol i ddeddfwriaeth amgylcheddol.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Pleidleisiodd y Senedd i beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer y Ddeddf ddwy waith, ym mis Mawrth a mis Mehefin 2023. Mae pwyllgorau'r Senedd eisoes wedi ystyried rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf a byddant yn parhau i fonitro ei weithrediad.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.